Lefiticus 11:13-19-35 BNET

13-19 “‘Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd.

20-23 “‘Mae unrhyw bryfed sy'n hedfan ac yn gwibio o gwmpas i'w hystyried yn aflan. Ond cewch fwyta'r pryfed hyn (sydd â choesau cymalog ac yn gallu neidio): pob math o locust, ceiliog rhedyn, cricedyn a sioncyn y gwair.

24-28 “‘Peidiwch cyffwrdd corff marw unrhyw anifail sydd â charn fforchog ond sydd ddim yn cnoi cil. Hefyd anifeiliaid sydd â phawennau. Byddan nhw'n eich gwneud chi'n aflan am weddill y dydd. A peidiwch pigo'r corff i fyny. Os gwnewch chi, rhaid i chi olchi eich dillad, a byddwch yn aflan am weddill y dydd.

29-32 “‘Mae'r creaduriaid yma i'w hystyried yn aflan iawn: y llygoden fawr, llygoden a madfall o unrhyw fath. Bydd rhywun sy'n cyffwrdd corff marw un ohonyn nhw yn aflan am weddill y dydd. Ac mae beth bynnag maen nhw'n syrthio arno pan maen nhw'n marw yn aflan – llestr pren, dilledyn, unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, neu sachliain, neu unrhyw declyn i wneud gwaith ag e. Beth bynnag ydy e, rhaid ei olchi mewn dŵr, a bydd yn aflan am weddill y dydd. Ar ôl hynny bydd e'n iawn i'w ddefnyddio eto.

33 Os ydy corff un ohonyn nhw'n cael ei ddarganfod mewn llestr pridd, rhaid torri'r llestr, ac mae popeth oedd ynddo yn aflan.

34 Os oes dŵr o'r llestr yn mynd ar fwyd, bydd y bwyd yn aflan. Ac os oedd diod yn y llestr, bydd hwnnw'n aflan.

35 Bydd beth bynnag mae corff marw un o'r creaduriaid yna yn ei gyffwrdd yn aflan. Os mai popty pridd neu stôf ydy e, rhaid ei falu.