40 Mae pwy bynnag sy'n bwyta peth o'i gig neu'n cario'r corff i ffwrdd yn aflan. Rhaid iddo olchi ei ddillad, ond mae'n dal yn aflan am weddill y dydd.
41-43 “‘Mae'r creaduriaid bach sy'n llusgo ar lawr ar eu boliau, neu sydd â nifer fawr o goesau i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta nhw, neu byddwch chi'n gwneud eich hunain yn ffiaidd ac yn aflan.
44 Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi gysegru'ch hunain yn llwyr i mi, a bod yn sanctaidd am fy mod i'n sanctaidd. Peidiwch gwneud eich hunain yn ffiaidd drwy fwyta un o'r creaduriaid aflan yma.
45 Fi ydy'r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft i fod yn Dduw i chi. Rhaid i chi fod yn sanctaidd, am fy mod i yn sanctaidd.
46 “‘Dyma'r rheolau am anifeiliaid, adar, pysgod a'r creaduriaid eraill –
47 beth sy'n iawn i'w fwyta a beth sydd ddim.’”