Lefiticus 11:9-33 BNET

9 “‘Cewch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a cennau arnyn nhw hefyd. Sdim ots os ydyn nhw'n byw yn y môr neu mewn afon.

10-12 Ond mae unrhyw greaduriaid sy'n heigio yn y dŵr ag sydd heb esgyll a cennau arnyn nhw i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta eu cig nhw na cyffwrdd un sydd wedi marw.

13-19 “‘Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd.

20-23 “‘Mae unrhyw bryfed sy'n hedfan ac yn gwibio o gwmpas i'w hystyried yn aflan. Ond cewch fwyta'r pryfed hyn (sydd â choesau cymalog ac yn gallu neidio): pob math o locust, ceiliog rhedyn, cricedyn a sioncyn y gwair.

24-28 “‘Peidiwch cyffwrdd corff marw unrhyw anifail sydd â charn fforchog ond sydd ddim yn cnoi cil. Hefyd anifeiliaid sydd â phawennau. Byddan nhw'n eich gwneud chi'n aflan am weddill y dydd. A peidiwch pigo'r corff i fyny. Os gwnewch chi, rhaid i chi olchi eich dillad, a byddwch yn aflan am weddill y dydd.

29-32 “‘Mae'r creaduriaid yma i'w hystyried yn aflan iawn: y llygoden fawr, llygoden a madfall o unrhyw fath. Bydd rhywun sy'n cyffwrdd corff marw un ohonyn nhw yn aflan am weddill y dydd. Ac mae beth bynnag maen nhw'n syrthio arno pan maen nhw'n marw yn aflan – llestr pren, dilledyn, unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, neu sachliain, neu unrhyw declyn i wneud gwaith ag e. Beth bynnag ydy e, rhaid ei olchi mewn dŵr, a bydd yn aflan am weddill y dydd. Ar ôl hynny bydd e'n iawn i'w ddefnyddio eto.

33 Os ydy corff un ohonyn nhw'n cael ei ddarganfod mewn llestr pridd, rhaid torri'r llestr, ac mae popeth oedd ynddo yn aflan.