1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses
2 “Dywed wrth bobl Israel: Pan mae gwraig yn cael babi, os mai bachgen ydy'r babi, bydd hi'n aflan am saith diwrnod (fel gyda'r misglwyf).
3 Pan mae'r bachgen yn wythnos oed rhaid iddo fynd trwy'r ddefod o gael ei enwaedu, sef torri blaengroen ei bidyn i ffwrdd.
4 Fydd y wraig ddim yn hollol lân am dri deg tri diwrnod arall. Felly yn ystod y cyfnod yma o gael ei glanhau ddylai hi ddim cyffwrdd unrhyw beth cysegredig na mynd i'r cysegr i addoli.
5 Os mai merch ydy'r babi bydd y fam yn aflan am bythefnos (fel gyda'r misglwyf). A fydd hi ddim yn hollol lân am chwe deg chwech diwrnod arall.
6 “Pan mae'r fam wedi gorffen y cyfnod o gael ei glanhau, rhaid iddi ddod at fynedfa'r Tabernacl, a chyflwyno oen sy'n flwydd oed yn offrwm i'w losgi a cholomen neu durtur yn offrwm i lanhau o bechod.