1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron,
2 “Pan mae gan rywun chwydd neu rash neu smotyn wedi troi'n llidiog ar y croen, gall fod yn arwydd o glefyd heintus. Rhaid mynd â'r person hwnnw at offeiriad, sef Aaron neu un o'i ddisgynyddion.
3 Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan.
4 “Ond os ydy'r smotyn yn wyn, a ddim dyfnach na'r croen, a'r blew heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.
5 Os ydy'r drwg ddim gwaeth a heb ledu, bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am aros ar wahân am saith diwrnod arall.
6 Wedyn os fydd e wedi gwella ychydig, a heb ledu, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Dim ond rash ydy e. Rhaid iddo olchi ei ddillad a bydd yn lân.