11 mae'n afiechyd parhaol ar y croen, ac mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Waeth heb ei gadw ar wahân am gyfnod. Mae e'n aflan.
12-13 Ond os ydy'r afiechyd wedi lledu'n sydyn dros y corff i gyd, a'r offeiriad yn gallu gweld dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n lân.
14-15 Ond os oes briwiau wedi casglu yn dod i'r golwg eto, mae'r person yn aflan. Mae'r offeiriad i'w archwilio a chyhoeddi ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus.
16-17 “Ond wedyn, os ydy'r drwg yn diflannu a chroen sych yn dod yn ei le, rhaid iddo fynd at yr offeiriad i gael ei archwilio, a bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân.
18-19 “Os ydy rhywun wedi bod â chwydd oedd wedi casglu, a hwnnw wedi gwella, ac wedyn mae chwydd gwyn neu smotyn coch yn codi yn yr un lle rhaid mynd i'w ddangos i'r offeiriad.
20 Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan. Mae'n glefyd heintus wedi torri allan ble roedd y chwydd gwreiddiol.
21 Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'i fod yn edrych fel petai wedi gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb am saith diwrnod.