21 Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'i fod yn edrych fel petai wedi gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb am saith diwrnod.
22 “Os bydd y drwg yn lledu yn y cyfnod yma, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan.
23 Ond os fydd e ddim yn lledu, a dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan ei fod yn lân.
24 “Pan mae rhywun wedi llosgi ei hun, ac mae'r cnawd ble mae'r llosg wedi troi'n goch neu'n smotyn gwyn,
25 rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Mae wedi torri allan o'r llosg, a rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan.
26 Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen ac fel petai'n gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.
27 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto ar y seithfed dydd. Os ydy'r drwg yn lledu rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Mae'n glefyd heintus.