27 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto ar y seithfed dydd. Os ydy'r drwg yn lledu rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Mae'n glefyd heintus.
28 Os ydy'r drwg ddim gwaeth a heb ledu, ac fel petai'n gwella ychydig, dim ond chwydd o ganlyniad i'r llosg ydy e. Bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân, am mai dim ond craith sy'n ganlyniad i'r llosg ydy e.
29 “Os oes gan rywun friw wedi troi'n ddrwg ar y pen neu'r gên,
30 rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew yn y drwg yn felyn ac yn denau, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Ffafws ydy e, clefyd heintus ar y pen neu'r gên.
31 Ond os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'r blew yn dal yn iach, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.
32 Os fydd e heb ledu ar ôl saith diwrnod, a dim blew melyn ynddo, ac yn dal yn edrych ddim dyfnach na'r croen,
33 rhaid i'r person siafio. Ond rhaid peidio siafio lle mae'r briw. Bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod eto.