30 rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew yn y drwg yn felyn ac yn denau, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Ffafws ydy e, clefyd heintus ar y pen neu'r gên.
31 Ond os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'r blew yn dal yn iach, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.
32 Os fydd e heb ledu ar ôl saith diwrnod, a dim blew melyn ynddo, ac yn dal yn edrych ddim dyfnach na'r croen,
33 rhaid i'r person siafio. Ond rhaid peidio siafio lle mae'r briw. Bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod eto.
34 Os fydd e heb ledu erbyn hynny, ac yn dal i edrych ddim dyfnach na'r croen, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Rhaid iddo olchi ei ddillad, a bydd yn lân.
35 Ond os ydy'r drwg yn lledu ar ôl i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân
36 rhaid i'r offeiriad ei archwilio eto. Os ydy'r drwg wedi lledu, does dim rhaid edrych am flew melyn, mae e'n aflan.