37 Ond os ydy'r offeiriad yn meddwl ei fod heb ledu, ac os oes blew du wedi tyfu ynddo, mae wedi gwella. Mae'r person yn lân, a rhaid i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân.
38 “Os oes gan ddyn neu ddynes smotiau wedi troi'n llidiog ar y croen, smotiau gwyn,
39 rhaid i offeiriad ei archwilio. Os ydy'r smotiau yn lliw gwelw dim ond rash ydy e. Mae'r person yn lân.
40-41 “Os ydy dyn yn colli ei wallt o dop ei ben neu ar ei dalcen, dim ond moelni ydy e. Mae e'n lân.
42 Ond os oes smotyn wedi troi'n goch neu'n wyn ar y darn moel mae'n glefyd heintus sy'n lledu.
43 Rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r chwydd ar ei ben yn goch a gwyn, ac yn edrych fel clefyd heintus ar y corff,
44 rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y dyn yn aflan. Mae ganddo glefyd heintus ar ei ben.