44 rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y dyn yn aflan. Mae ganddo glefyd heintus ar ei ben.
45 “Rhaid i unrhyw un sydd â clefyd heintus ar y croen rwygo ei ddillad. Rhaid iddo adael i'w wallt hongian yn flêr, cuddio hanner isaf ei wyneb, a gweiddi ‘Dw i'n aflan! Dw i'n aflan!’
46 Bydd yn aflan tra mae'r afiechyd arno, a rhaid iddo fyw ar wahân i bawb, y tu allan i'r gwersyll.
47-49 “Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad.
50 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac wedyn yn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod.
51-52 Os bydd y llwydni wedi lledu ar ôl saith diwrnod mae'r eitem wedi ei ddifetha ac mae'n aflan. Beth bynnag oedd ei bwrpas rhaid iddo gael ei losgi.
53 “Ond os ydy'r offeiriad yn gweld fod y llwydni heb ledu,