46 Bydd yn aflan tra mae'r afiechyd arno, a rhaid iddo fyw ar wahân i bawb, y tu allan i'r gwersyll.
47-49 “Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad.
50 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac wedyn yn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod.
51-52 Os bydd y llwydni wedi lledu ar ôl saith diwrnod mae'r eitem wedi ei ddifetha ac mae'n aflan. Beth bynnag oedd ei bwrpas rhaid iddo gael ei losgi.
53 “Ond os ydy'r offeiriad yn gweld fod y llwydni heb ledu,
54 rhaid golchi'r eitem, ac wedyn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod arall.
55 Wedyn bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto. Os ydy'r marc yn dal i edrych yr un fath, mae'r eitem yn aflan – hyd yn oed os nad ydy'r llwydni wedi lledu. Rhaid llosgi'r eitem, sdim ots os ydy'r marc ar y tu allan neu ar y tu mewn.