54 rhaid golchi'r eitem, ac wedyn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod arall.
55 Wedyn bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto. Os ydy'r marc yn dal i edrych yr un fath, mae'r eitem yn aflan – hyd yn oed os nad ydy'r llwydni wedi lledu. Rhaid llosgi'r eitem, sdim ots os ydy'r marc ar y tu allan neu ar y tu mewn.
56 Ond os ydy'r marc ddim mor amlwg ar ôl iddo gael ei olchi rhaid torri'r darn hwnnw i ffwrdd.
57 Ond wedyn, os ydy'r llwydni'n dod yn ôl, rhaid llosgi'r dilledyn neu beth bynnag oedd yr eitem o ledr.
58 Os ydy'r marc wedi diflannu'n llwyr ar ôl cael ei olchi, dylid ei olchi eto ac wedyn bydd yn lân.
59 “Dyma'r drefn wrth benderfynu os ydy dilledyn, neu unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, yn lân neu'n aflan pan mae llwydni wedi ymddangos arno.”