1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Dyma'r drefn pan mae rhywun wedi gwella o glefyd heintus ar y croen:“Rhaid mynd â'r mater at yr offeiriad.
3 Bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r gwersyll i'w archwilio. Os ydy'r afiechyd wedi gwella
4 bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am fynd â dau aderyn byw i'w haberthu, darn o bren cedrwydd, edau goch, a brigau o isop.