12 Yno bydd yr offeiriad yn aberthu un o'r ŵyn yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yn ei gymryd gyda'r olew olewydd a'i codi nhw'n uchel i'w cyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
13 Mae'r oen i gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi yn cael eu lladd. Yr offeiriad sydd piau fe, fel gyda'r offrwm i lanhau o bechod. Mae'n gysegredig iawn.
14 “Mae'r offeiriad wedyn i gymryd peth o waed yr offrwm i gyfaddef bai, a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde.
15 Wedyn mae'r offeiriad i gymryd peth o'r olew olewydd a'i dywallt i gledr ei law ei hun.
16 Yna rhoi bys ei law dde yn yr olew sydd yn ei law chwith, a'i daenellu saith gwaith o flaen yr ARGLWYDD.
17 Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd ar ôl yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw.
18 Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau. Wedyn bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw: