20 Bydd yn cyflwyno'r offrwm sydd i'w losgi a'r offrwm o rawn ar yr allor. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person â Duw, a bydd e'n lân.
21 “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio hyn i gyd, mae i gymryd un oen gwryw yn offrwm i gyfaddef bai sydd i'w godi'n uchel. Bydd yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw. Hefyd un rhan o dair o litr o olew olewydd a cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew yn offrwm o rawn.
22 Hefyd dwy durtur neu ddwy golomen – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi.
23 Dylai fynd â nhw at yr offeiriad ar yr wythfed diwrnod, ar gyfer y ddefod o gael ei lanhau. Mae i fynd â nhw at fynedfa'r Tabernacl, o flaen yr ARGLWYDD.
24 “Bydd yr offeiriad yn cymryd yr oen sy'n offrwm i gyfaddef bai, gyda'r olew olewydd, ac yn eu codi nhw'n uchel yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
25 Mae'r oen i gael ei ladd fel offrwm i gyfaddef bai. Mae'r offeiriad i gymryd peth o waed yr offrwm a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde.
26 Wedyn mae'r offeiriad i dywallt peth o'r olew olewydd i gledr ei law chwith.