26 Wedyn mae'r offeiriad i dywallt peth o'r olew olewydd i gledr ei law chwith.
27 Yna gyda bys ei law dde mae i daenellu peth o'r olew sydd yn ei law chwith saith gwaith o flaen yr ARGLWYDD.
28 Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw.
29 Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau, i wneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw.
30 “Wedyn mae i gymryd y turturod neu'r colomennod ifanc (beth bynnag mae'n gallu ei fforddio).
31 Mae un i'w gyflwyno yn offrwm i lanhau o bechod, a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr gyda'r offrwm o rawn. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cael ei lanhau a Duw.
32 Dyna'r drefn ar gyfer rhywun sydd wedi bod â clefyd heintus ar y croen, ond sy'n methu fforddio'r offrymau ar gyfer y ddefod glanhau.”