29 Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau, i wneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw.
30 “Wedyn mae i gymryd y turturod neu'r colomennod ifanc (beth bynnag mae'n gallu ei fforddio).
31 Mae un i'w gyflwyno yn offrwm i lanhau o bechod, a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr gyda'r offrwm o rawn. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cael ei lanhau a Duw.
32 Dyna'r drefn ar gyfer rhywun sydd wedi bod â clefyd heintus ar y croen, ond sy'n methu fforddio'r offrymau ar gyfer y ddefod glanhau.”
33 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:
34 “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd gwlad Canaan, sef y wlad dw i'n ei rhoi i chi, os bydd tyfiant ffyngaidd yn un o'r tai, dyma beth sydd rhaid ei wneud:
35 Mae perchennog y tŷ i fynd at yr offeiriad, a dweud, ‘Mae'n edrych fel petai rhyw dyfiant fel ffwng yn fy nhŷ i.’