3 Bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r gwersyll i'w archwilio. Os ydy'r afiechyd wedi gwella
4 bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am fynd â dau aderyn byw i'w haberthu, darn o bren cedrwydd, edau goch, a brigau o isop.
5 Wedyn bydd yr offeiriad yn dweud wrtho am ladd un o'r adar uwch ben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo.
6 Wedyn rhaid iddo gymryd yr aderyn sy'n dal yn fyw, y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'i trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd.
7 Wedyn bydd yn taenellu peth o'r gwaed saith gwaith ar y person sydd wedi gwella o'r clefyd heintus. Yna bydd yn cyhoeddi fod y person yn lân, ac yn gadael i'r aderyn hedfan i ffwrdd.
8 “Nesaf, rhaid i'r person sydd wedi gwella o'r afiechyd olchi ei ddillad, siafio ei gorff i gyd, ac ymolchi mewn bath. Wedyn bydd yn lân. Bydd yn gallu mynd i mewn i'r gwersyll, ond ddim yn cael mynd i fyw i'w babell am saith diwrnod.
9 Ar ôl hynny bydd yn siafio eto – ei ben, ei farf, ei aeliau, a gweddill ei gorff. Yna'n olaf bydd yn golchi ei ddillad eto, cymryd bath arall, a bydd e'n gwbl lân.