33 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:
34 “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd gwlad Canaan, sef y wlad dw i'n ei rhoi i chi, os bydd tyfiant ffyngaidd yn un o'r tai, dyma beth sydd rhaid ei wneud:
35 Mae perchennog y tŷ i fynd at yr offeiriad, a dweud, ‘Mae'n edrych fel petai rhyw dyfiant fel ffwng yn fy nhŷ i.’
36 Bydd yr offeiriad yn dweud fod rhaid gwagio'r tŷ cyn iddo fynd yno i'w archwilio, rhag i bopeth yn y tŷ gael ei wneud yn aflan. Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yno i archwilio'r tŷ.
37 Os bydd e'n darganfod tyfiant gwyrdd neu goch ar y waliau sy'n ddyfnach na'r wyneb,
38 mae'r offeiriad i fynd allan o'r tŷ a'i gau am saith diwrnod.
39 Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yn ôl mewn wythnos i archwilio'r tŷ eto. Os ydy'r tyfiant wedi lledu ar waliau'r tŷ