42 Wedyn bydd y waliau'n cael eu trwsio gyda cherrig newydd, a bydd y tŷ yn cael ei ail-blastro.
43 “Os bydd y tyfiant yn ailymddangos ar ôl cael gwared â'r cerrig, trwsio'r waliau ac ail-blastro'r tŷ,
44 mae'r offeiriad i fynd yn ôl i archwilio'r tŷ eto. Os bydd y tyfiant wedi lledu mae'n broblem barhaol. Rhaid ystyried y tŷ yn aflan.
45 Bydd rhaid i'r tŷ gael ei dynnu i lawr, a bydd rhaid i'r cerrig, y coed, a'r plastr i gyd gael ei daflu mewn lle aflan tu allan i'r dre.
46 Bydd pawb aeth i mewn i'r tŷ pan oedd wedi ei gau, yn aflan am weddill y dydd.
47 A rhaid i bawb fuodd yn cysgu neu'n bwyta yn y tŷ olchi eu dillad.
48 “Ond os ydy'r offeiriad yn darganfod fod y tyfiant heb ddod yn ôl i'r tŷ ar ôl iddo gael ei ail-blastro, bydd e'n cyhoeddi fod y tŷ yn lân – mae'r drwg wedi mynd.