8 “Nesaf, rhaid i'r person sydd wedi gwella o'r afiechyd olchi ei ddillad, siafio ei gorff i gyd, ac ymolchi mewn bath. Wedyn bydd yn lân. Bydd yn gallu mynd i mewn i'r gwersyll, ond ddim yn cael mynd i fyw i'w babell am saith diwrnod.
9 Ar ôl hynny bydd yn siafio eto – ei ben, ei farf, ei aeliau, a gweddill ei gorff. Yna'n olaf bydd yn golchi ei ddillad eto, cymryd bath arall, a bydd e'n gwbl lân.
10 “Y diwrnod wedyn mae i gymryd dau oen gwryw ac oen banw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw at yr offeiriad. Hefyd tri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, ac un rhan o dair o litr o olew olewydd.
11 Bydd yr offeiriad sy'n arwain y ddefod glanhad yn mynd â'r person a'i offrwm o flaen yr ARGLWYDD at fynedfa'r Tabernacl.
12 Yno bydd yr offeiriad yn aberthu un o'r ŵyn yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yn ei gymryd gyda'r olew olewydd a'i codi nhw'n uchel i'w cyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
13 Mae'r oen i gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi yn cael eu lladd. Yr offeiriad sydd piau fe, fel gyda'r offrwm i lanhau o bechod. Mae'n gysegredig iawn.
14 “Mae'r offeiriad wedyn i gymryd peth o waed yr offrwm i gyfaddef bai, a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde.