1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:
2 “Dywed wrth bobl Israel:“Pan mae dyn yn diodde o glefyd ar ei bidyn, mae'n ei wneud e'n aflan.
3 Gall yr aflendid fod yn ddiferiad cyson, neu ryw rwystr sy'n ei gwneud yn anodd iddo biso.
4 Bydd ei wely yn aflan, ac unrhyw ddodrefnyn mae'n eistedd arno hefyd.
5-7 Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd y dyn neu ei wely, neu'n eistedd ar ddodrefnyn mae e wedi eistedd arno, bydd rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.