15 Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno nhw – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw ar ôl iddo wella o'i afiechyd.
16 “Pan mae dyn yn gollwng ei had rhaid iddo olchi ei gorff i gyd mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
17 Os ydy ei had yn cyffwrdd rhywbeth sydd wedi ei wneud o frethyn neu o ledr, rhaid eu golchi nhw. Ond byddan nhw'n dal yn aflan am weddill y dydd.
18 Pan mae dyn yn cael rhyw gyda gwraig, rhaid i'r ddau ohonyn nhw ymolchi mewn dŵr. Ond byddan nhw'n dal yn aflan am weddill y dydd.
19 “Pan mae gwraig yn diodde o'r misglwyf, mae hi'n aros yn aflan am saith diwrnod. A bydd unrhyw un sy'n ei chyffwrdd hi yn aflan am weddill y dydd.
20 Bydd popeth mae hi'n gorwedd arno neu'n eistedd arno yn y cyfnod yma yn aflan
21-23 Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd ei gwely hi, neu unrhyw beth mae hi wedi eistedd arno, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.