2 “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion, ac wrth bobl Israel i gyd mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn:
3 Os ydy unrhyw un o bobl Israel yn aberthu bustach, dafad, neu afr, yn y gwersyll neu'r tu allan i'r gwersyll,
4 yn lle mynd â'r anifail at y fynedfa i'r Tabernacl i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn euog o dywallt gwaed. Mae e wedi tywallt gwaed, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
5 Pwrpas y rheol yma ydy gwneud i bobl Israel ddod a'u haberthau i'r ARGLWYDD, at yr offeiriad o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, yn lle eu haberthu allan yn y wlad. Maen nhw i'w cyflwyno iddo yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
6 Bydd yr offeiriad yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor wrth y fynedfa i'r Tabernacl, ac yn llosgi'r brasder fel offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
7 Dŷn nhw ddim i aberthu i'r gafr-ddemoniaid o hyn ymlaen. Maen nhw'n ymddwyn fel puteiniaid wrth wneud y fath beth. Fydd y rheol yma byth yn newid.
8 “Atgoffa nhw: Does neb o bobl Israel nag unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw i gyflwyno offrwm i'w losgi neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD,