5 Pwrpas y rheol yma ydy gwneud i bobl Israel ddod a'u haberthau i'r ARGLWYDD, at yr offeiriad o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, yn lle eu haberthu allan yn y wlad. Maen nhw i'w cyflwyno iddo yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
6 Bydd yr offeiriad yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor wrth y fynedfa i'r Tabernacl, ac yn llosgi'r brasder fel offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
7 Dŷn nhw ddim i aberthu i'r gafr-ddemoniaid o hyn ymlaen. Maen nhw'n ymddwyn fel puteiniaid wrth wneud y fath beth. Fydd y rheol yma byth yn newid.
8 “Atgoffa nhw: Does neb o bobl Israel nag unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw i gyflwyno offrwm i'w losgi neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD,
9 oni bai ei fod yn dod â'r offrwm hwnnw at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Bydd unrhyw un sy'n gwneud yn wahanol yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
10 “Bydda i yn troi yn erbyn unrhyw un sy'n bwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo – un o bobl Israel neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw. Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
11 Mae bywyd yr anifail yn y gwaed. Dw i wedi ei roi i'w aberthu ar yr allor yn eich lle chi. Y bywyd yn y gwaed sy'n gwneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw.