11 Paid cael rhyw gyda merch dy lysfam.
12 Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy dad. Mae hi'n berthynas agos i dy dad.
13 Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy fam. Mae hi'n berthynas agos i dy fam.
14 Paid amharchu dy ewyrth, brawd dy dad, drwy gael rhyw gyda'i wraig. Dy fodryb di ydy hi!
15 Paid cael rhyw gyda dy ferch-yng-nghyfraith. Gwraig dy fab di ydy hi, a dwyt ti ddim i gael rhyw gyda hi.
16 Paid cael rhyw gyda gwraig dy frawd. Hi ydy perthynas agosaf dy frawd.
17 Paid cael rhyw gyda merch neu wyres unrhyw wraig wyt ti wedi cael rhyw gyda hi yn y gorffennol. Maen nhw'n perthyn yn agos i'r wraig honno, ac mae gwneud peth felly yn gwbl ffiaidd.