18 Paid achosi ffrae drwy briodi chwaer dy wraig, a chael rhyw gyda hi, pan mae dy wraig yn dal yn fyw.
19 “Paid cael rhyw gyda gwraig pan mae hi'n cael ei hystyried yn ‛aflan‛ am ei bod yn diodde o'r misglwyf.
20 Paid cael rhyw gyda gwraig rhywun arall. Mae gwneud peth felly'n dy wneud di'n ‛aflan‛.
21 “Paid rhoi un o dy blant i'w losgi'n fyw i'r duw Molech. Mae gwneud peth felly yn sarhau enw Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
22 Dydy dyn ddim i gael rhyw gyda dyn arall. Mae hynny'n beth ffiaidd i'w wneud.
23 Paid cael rhyw gydag anifail. Mae gwneud peth felly'n dy wneud di'n aflan. Rhaid i wraig beidio rhoi ei hun i anifail i gael rhyw gydag e. Mae'n beth ffiaidd, annaturiol i'w wneud.
24 “Peidiwch gwneud eich hunain yn ffiaidd drwy wneud pethau fel yna. Dyna sut mae'r bobloedd dw i'n mynd i'w gyrru allan o'ch blaen chi wedi llygru eu hunain.