20 Paid cael rhyw gyda gwraig rhywun arall. Mae gwneud peth felly'n dy wneud di'n ‛aflan‛.
21 “Paid rhoi un o dy blant i'w losgi'n fyw i'r duw Molech. Mae gwneud peth felly yn sarhau enw Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
22 Dydy dyn ddim i gael rhyw gyda dyn arall. Mae hynny'n beth ffiaidd i'w wneud.
23 Paid cael rhyw gydag anifail. Mae gwneud peth felly'n dy wneud di'n aflan. Rhaid i wraig beidio rhoi ei hun i anifail i gael rhyw gydag e. Mae'n beth ffiaidd, annaturiol i'w wneud.
24 “Peidiwch gwneud eich hunain yn ffiaidd drwy wneud pethau fel yna. Dyna sut mae'r bobloedd dw i'n mynd i'w gyrru allan o'ch blaen chi wedi llygru eu hunain.
25 Mae'r tir ei hun wedi cael ei wneud yn aflan yn fy ngolwg i. Dyna pam dw i'n eu cosbi nhw. Bydd y tir yn eu chwydu nhw allan.
26 Byddwch yn ufudd, a chadw fy rheolau i. Peidiwch gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd maen nhw'n eu gwneud; neb ohonoch chi – pobl Israel nag unrhyw un arall sy'n byw gyda chi.