6 “Paid cael rhyw gyda rhywun sy'n perthyn yn agos i ti.
7 Paid amharchu dy dad drwy gael rhyw gyda dy fam. Dy fam di ydy hi!
8 A paid amharchu dy dad drwy gael rhyw gyda dy lysfam, gwraig dy dad.
9 Paid cael rhyw gyda dy chwaer neu dy hanner chwaer – sdim ots ble mae hi wedi ei geni.
10 Paid cael rhyw gyda phlentyn dy fab neu dy ferch. Maen nhw'n perthyn yn agos i ti!
11 Paid cael rhyw gyda merch dy lysfam.
12 Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy dad. Mae hi'n berthynas agos i dy dad.