1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Dywed wrth bobl Israel: Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i'n sanctaidd.
3 Rhaid i bob un ohonoch chi barchu ei fam a'i dad.Rhaid i chi gadw fy Sabothau. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
4 Peidiwch troi cefn arna i ac addoli eilunod diwerth, na gwneud delwau o fetel tawdd. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
5 Pan fyddwch chi'n cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, rhaid i chi ei gyflwyno mewn ffordd sy'n ei wneud yn dderbyniol.
6 Rhaid ei fwyta ar y diwrnod mae'n cael ei aberthu neu'r diwrnod wedyn. Os oes peth ar ôl ar y trydydd diwrnod rhaid ei losgi.
7 Dydy e ddim i gael ei fwyta y diwrnod hwnnw. Mae'n gig sydd wedi ei halogi. Dydy e ddim yn dderbyniol i Dduw.