10 Paid casglu'r grawnwin sy'n dy winllan i gyd. A paid mynd trwy'r winllan yn casglu'r ffrwyth sydd wedi disgyn ar lawr. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, ac i'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di.
11 Paid dwyn.Paid dweud celwydd.Paid twyllo pobl eraill.
12 Paid defnyddio fy enw wrth gymryd llw rwyt ti'n mynd i'w dorri. Mae gwneud peth felly yn amharchu enw Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
13 Paid cymryd mantais o bobl eraill neu ddwyn oddi arnyn nhw.Tala ei gyflog i weithiwr ar ddiwedd y dydd, paid cadw'r arian tan y bore.
14 Paid enllibio rhywun sy'n fyddar, neu osod rhywbeth o flaen rhywun sy'n ddall i wneud iddo faglu. Parcha Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
15 Paid bod yn annheg wrth farnu. Paid cadw ochr rhywun am ei fod yn dlawd na dangos parch at rywun am ei fod yn bwysig. Bydd yn hollol deg wrth farnu.
16 Paid mynd o gwmpas dy bobl yn dweud celwydd a hel clecs.Paid gwneud dim sy'n rhoi bywyd rhywun arall mewn perygl. Fi ydy'r ARGLWYDD.