16 Paid mynd o gwmpas dy bobl yn dweud celwydd a hel clecs.Paid gwneud dim sy'n rhoi bywyd rhywun arall mewn perygl. Fi ydy'r ARGLWYDD.
17 Paid dal dig yn erbyn rhywun. Os oes gen ti ddadl gyda rhywun, mae'n well delio gyda'r peth yn agored rhag i ti bechu o'i achos e.
18 Paid dial ar bobl neu ddal dig yn eu herbyn nhw. Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun. Fi ydy'r ARGLWYDD.
19 Byddwch yn ufudd i mi.Paid croesi dau fath gwahanol o anifail gyda'i gilydd.Paid hau dau fath gwahanol o hadau yn dy gaeau.Paid gwisgo dillad wedi eu gwneud o ddau fath gwahanol o ddefnydd.
20 “Os ydy dyn yn cael rhyw gyda caethforwyn sydd wedi ei dyweddïo i ddyn arall ond heb eto gael ei phrynu'n rhydd, rhaid iddyn nhw gael eu cosbi. Fyddan nhw ddim yn wynebu'r gosb eithaf am nad oedd hi eto wedi cael ei rhyddid.
21 Ond rhaid i'r dyn ddod ag offrwm i gyfaddef ei fai i'r ARGLWYDD at fynedfa Pabell Presenoldeb Duw – offrwm o hwrdd i gyfaddef ei fai.
22 Mae'r offeiriad i gymryd yr hwrdd a mynd trwy'r ddefod o wneud pethau'n iawn rhwng y dyn sydd wedi pechu a'r ARGLWYDD. Bydd Duw yn maddau iddo am y pechod.