20 “Os ydy dyn yn cael rhyw gyda caethforwyn sydd wedi ei dyweddïo i ddyn arall ond heb eto gael ei phrynu'n rhydd, rhaid iddyn nhw gael eu cosbi. Fyddan nhw ddim yn wynebu'r gosb eithaf am nad oedd hi eto wedi cael ei rhyddid.
21 Ond rhaid i'r dyn ddod ag offrwm i gyfaddef ei fai i'r ARGLWYDD at fynedfa Pabell Presenoldeb Duw – offrwm o hwrdd i gyfaddef ei fai.
22 Mae'r offeiriad i gymryd yr hwrdd a mynd trwy'r ddefod o wneud pethau'n iawn rhwng y dyn sydd wedi pechu a'r ARGLWYDD. Bydd Duw yn maddau iddo am y pechod.
23 “Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad, ac wedi plannu coed ffrwythau yno, rhaid i chi beidio casglu'r ffrwyth na'i fwyta am dair blynedd.
24 Yn y bedwaredd flwyddyn mae'r ffrwyth i gael ei gysegru yn offrwm o fawl i'r ARGLWYDD.
25 Wedyn yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'r ffrwyth. Os gwnewch chi hyn byddwch yn cael cnydau lawer iawn mwy. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
26 Peidiwch bwyta dim byd sydd â gwaed yn dal ynddo.Peidiwch gwneud pethau fel dweud ffortiwn neu ddewino.