23 “Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad, ac wedi plannu coed ffrwythau yno, rhaid i chi beidio casglu'r ffrwyth na'i fwyta am dair blynedd.
24 Yn y bedwaredd flwyddyn mae'r ffrwyth i gael ei gysegru yn offrwm o fawl i'r ARGLWYDD.
25 Wedyn yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'r ffrwyth. Os gwnewch chi hyn byddwch yn cael cnydau lawer iawn mwy. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
26 Peidiwch bwyta dim byd sydd â gwaed yn dal ynddo.Peidiwch gwneud pethau fel dweud ffortiwn neu ddewino.
27 Peidiwch siafio'r gwallt ar ochr eich pen, na trimio'ch barf,
28 na torri'ch hunain â chyllyll wrth alaru am rywun sydd wedi marw.Peidiwch rhoi tatŵ ar eich corff. Fi ydy'r ARGLWYDD.
29 Paid amharchu dy ferch drwy ei gwneud hi'n butain crefyddol, rhag i'r wlad i gyd droi cefn arna i ac ymddwyn yn gwbl ffiaidd fel puteiniaid.