25 Wedyn yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'r ffrwyth. Os gwnewch chi hyn byddwch yn cael cnydau lawer iawn mwy. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
26 Peidiwch bwyta dim byd sydd â gwaed yn dal ynddo.Peidiwch gwneud pethau fel dweud ffortiwn neu ddewino.
27 Peidiwch siafio'r gwallt ar ochr eich pen, na trimio'ch barf,
28 na torri'ch hunain â chyllyll wrth alaru am rywun sydd wedi marw.Peidiwch rhoi tatŵ ar eich corff. Fi ydy'r ARGLWYDD.
29 Paid amharchu dy ferch drwy ei gwneud hi'n butain crefyddol, rhag i'r wlad i gyd droi cefn arna i ac ymddwyn yn gwbl ffiaidd fel puteiniaid.
30 Rhaid i chi gadw fy Sabothau a pharchu fy lle cysegredig i. Fi ydy'r ARGLWYDD.
31 Peidiwch mynd ar ôl ysbrydion neu siarad â'r meirw. Mae pethau felly'n eich gwneud chi'n aflan yng ngolwg Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.