27 Peidiwch siafio'r gwallt ar ochr eich pen, na trimio'ch barf,
28 na torri'ch hunain â chyllyll wrth alaru am rywun sydd wedi marw.Peidiwch rhoi tatŵ ar eich corff. Fi ydy'r ARGLWYDD.
29 Paid amharchu dy ferch drwy ei gwneud hi'n butain crefyddol, rhag i'r wlad i gyd droi cefn arna i ac ymddwyn yn gwbl ffiaidd fel puteiniaid.
30 Rhaid i chi gadw fy Sabothau a pharchu fy lle cysegredig i. Fi ydy'r ARGLWYDD.
31 Peidiwch mynd ar ôl ysbrydion neu siarad â'r meirw. Mae pethau felly'n eich gwneud chi'n aflan yng ngolwg Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
32 Dylet godi ar dy draed i ddangos parch at bobl mewn oed. Ac ofni Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
33 Paid cam-drin mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi.