6 Wedyn ei dorri'n ddarnau a thywallt mwy o olew arno. Mae hwn hefyd yn offrwm o rawn.
7 “Os ydy'r offrwm yn cael ei baratoi mewn padell rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi ei goginio mewn olew olewydd.
8 Gallwch ddod ag offrwm grawn i'r ARGLWYDD os ydy e wedi ei baratoi gyda'r cynhwysion yma. Rhowch e i'r offeiriad, a bydd e'n mynd ag e at yr allor.
9 Bydd yr offeiriad yn cymryd peth ohono i'w losgi yn ernes ar yr allor – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
10 Mae'r offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae'n gysegredig am ei fod yn rhan o'r offrwm gafodd ei losgi i'r ARGLWYDD.
11 “Does dim burum i gael ei ddefnyddio yn unrhyw offrwm o rawn sy'n cael ei gyflwyno i'r ARGLWYDD. Dydy burum na mêl i gael eu defnyddio mewn offrwm sydd i gael ei losgi i'r ARGLWYDD.
12 Gallwch eu rhoi nhw fel offrwm o ffrwythau cyntaf y cynhaeaf i'r ARGLWYDD, ond ddylen nhw byth gael eu llosgi ar yr allor.