11 Mae dyn sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad yn amharchu ei dad. Y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Arnyn nhw mae'r bai.
12 Os ydy dyn yn cael rhyw gyda'i ferch-yng-nghyfraith, y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Maen nhw wedi gwneud peth ffiaidd. Arnyn nhw mae'r bai.
13 Os ydy dyn yn cael rhyw gyda dyn arall, mae'r ddau wedi gwneud peth ffiaidd. Y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Arnyn nhw mae'r bai.
14 Mae hefyd yn beth cwbl ffiaidd i ddyn gael rhyw gyda gwraig a'i mam. Y gosb ydy llosgi'r tri ohonyn nhw i farwolaeth. Does dim byd ffiaidd fel yma i ddigwydd yn eich plith chi.
15 Os ydy dyn yn cael rhyw gydag anifail, y gosb ydy marwolaeth. Ac mae'r anifail i gael ei ladd hefyd.
16 Os ydy gwraig yn mynd at anifail i gael rhyw gydag e, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid i'r wraig a'r anifail farw. Arnyn nhw mae'r bai.
17 Mae'n beth gwarthus i ddyn gael rhyw gyda'i chwaer (merch i'w dad neu i'w fam), a'r ddau yn gweld ei gilydd yn noeth. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Mae'r dyn wedi amharchu ei chwaer, ac mae'n rhaid iddo gael ei gosbi.