18 Os ydy dyn yn cael rhyw gyda gwraig sy'n diodde o'r misglwyf, mae ffynhonnell ei gwaedlif wedi ei amlygu. Bydd y ddau ohonyn nhw yn cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw.
19 Paid cael rhyw gyda chwaer dy fam neu chwaer dy dad. Mae gwneud hynny yn amharchu perthynas agos. Byddan nhw'n cael eu cosbi am eu pechod.
20 Os ydy dyn yn cael rhyw gyda gwraig ei ewythr, mae e'n amharchu ei ewythr. Maen nhw'n gyfrifol am eu pechod. Byddan nhw'n marw heb gael plant.
21 Mae'n beth anweddus i ddyn gymryd gwraig ei frawd. Mae e'n amharchu ei frawd. Byddan nhw'n methu cael plant.
22 “Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i gyd, er mwyn i'r tir dw i'n mynd â chi i fyw ynddo beidio eich chwydu chi allan.
23 Peidiwch gwneud yr un fath â phobl y wlad dw i'n eu gyrru allan o'ch blaen chi. Roeddwn i'n eu ffieiddio nhw am wneud y fath bethau.
24 Ond dw i wedi dweud wrthoch chi: Dw i wedi addo rhoi eu tir nhw i chi. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Dw i wedi eich dewis chi i fod yn wahanol i'r gwledydd eraill.