3 Bydda i'n troi yn erbyn person felly. Bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw, am roi ei blentyn i Molech, llygru'r cysegr, a sarhau fy enw sanctaidd i.
4 Os bydd pobl y wlad yn diystyru'r peth pan mae rhywun yn rhoi ei blentyn i Molech, a ddim yn ei roi i farwolaeth,
5 bydda i fy hun yn troi yn erbyn y dyn hwnnw a'i deulu. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Dyna fydd yn digwydd iddo, ac i bawb arall sy'n gwneud yr un fath ac yn puteinio drwy addoli'r duw Molech.
6 Neu os ydy rhywun yn mynd ar ôl ysbrydion neu'n ceisio siarad â'r meirw, bydda i'n troi yn erbyn y person hwnnw, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw
7 Rhaid i chi gysegru'ch hunain i mi, a bod yn sanctaidd. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
8 Byddwch yn ufudd i mi, a gwneud beth dw i'n ddweud. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich cysegru chi yn bobl i mi fy hun.
9 Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth. Fe ei hun sydd ar fai.