1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed hyn wrth yr offeiriaid, disgynyddion Aaron:“Dydy offeiriad ddim i wneud ei hun yn aflan drwy fynd yn agos at gorff perthynas sydd wedi marw.
2 Dydy e ddim ond yn cael mynd at ei berthnasau agosaf – mam, tad, merch, brawd,
3 neu chwaer ddibriod oedd heb ŵr i ofalu amdani.
4 Dydy e ddim i fynd at rywun sy'n perthyn iddo trwy briodas. Byddai'n gwneud ei hun yn aflan wrth wneud hynny.