11 Dydy e ddim i fynd yn agos at gorff marw. Dydy e ddim i wneud ei hun yn aflan hyd yn oed pan mae ei dad neu ei fam wedi marw.
12 Dydy e ddim i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo sarhau cysegr Duw. Mae wedi ei gysegru gydag olew eneinio ei Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
13 Rhaid iddo briodi merch sy'n wyryf.
14 Dydy e ddim i briodi gwraig weddw, gwraig sydd wedi cael ysgariad, gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd neu butain. Rhaid iddo briodi merch o'i lwyth ei hun sy'n wyryf,
15 rhag iddo gael plant sydd ddim yn dderbyniol i Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi ei gysegru e i mi fy hun.”
16 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
17 “Dywed wrth Aaron: Does neb o dy ddisgynyddion di sydd â nam arno i gael dod yn agos i offrymu bwyd ei Dduw.