14 Dydy e ddim i briodi gwraig weddw, gwraig sydd wedi cael ysgariad, gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd neu butain. Rhaid iddo briodi merch o'i lwyth ei hun sy'n wyryf,
15 rhag iddo gael plant sydd ddim yn dderbyniol i Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi ei gysegru e i mi fy hun.”
16 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
17 “Dywed wrth Aaron: Does neb o dy ddisgynyddion di sydd â nam arno i gael dod yn agos i offrymu bwyd ei Dduw.
18 Neb sy'n ddall, yn anabl, gyda wyneb wedi ei anffurfio, neu ryw nam corfforol arall,
19 wedi torri ei goes neu ei fraich,
20 yn grwca neu'n gorrach, neu'n ddyn sydd a rhywbeth o'i le ar ei lygaid, rhyw afiechyd ar y croen, neu wedi niweidio ei geilliau.