19 wedi torri ei goes neu ei fraich,
20 yn grwca neu'n gorrach, neu'n ddyn sydd a rhywbeth o'i le ar ei lygaid, rhyw afiechyd ar y croen, neu wedi niweidio ei geilliau.
21 Does neb o ddisgynyddion Aaron sydd â nam arnyn nhw i gael dod ag offrymu rhoddion i'r ARGLWYDD. Os oes nam arno dydy e ddim yn cael cyflwyno bwyd ei Dduw.
22 Maen iawn iddo fwyta bwyd ei Dduw, yr hyn sydd wedi ei gysegru a'r offrymau mwyaf sanctaidd.
23 Ond dydy e ddim i gael mynd yn agos at y llen na'r allor, am fod nam arno, rhag iddo lygru fy lle cysegredig i a phopeth sydd yno. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd yn eu cysegru nhw i mi fy hun.”
24 Dyma'r pethau ddwedodd Moses wrth Aaron a'i ddisgynyddion ac wrth bobl Israel.