8 Rhaid i chi ystyried yr offeiriad yn sanctaidd, am fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun.
9 Pan mae merch offeiriad yn amharchu ei hun drwy droi'n butain grefyddol, mae hi'n amharchu ei thad hefyd. Rhaid iddi gael ei llosgi i farwolaeth.
10 “Dydy'r archoffeiriad, sef yr un sydd wedi cael ei eneinio ag olew a'i ordeinio i wisgo'r gwisgoedd offeiriadol, ddim i adael ei wallt yn flêr nag i rwygo ei ddillad.
11 Dydy e ddim i fynd yn agos at gorff marw. Dydy e ddim i wneud ei hun yn aflan hyd yn oed pan mae ei dad neu ei fam wedi marw.
12 Dydy e ddim i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo sarhau cysegr Duw. Mae wedi ei gysegru gydag olew eneinio ei Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
13 Rhaid iddo briodi merch sy'n wyryf.
14 Dydy e ddim i briodi gwraig weddw, gwraig sydd wedi cael ysgariad, gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd neu butain. Rhaid iddo briodi merch o'i lwyth ei hun sy'n wyryf,