10-11 “Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael bwyta'r offrymau sanctaidd. Does neb sy'n lletya gyda'r offeiriad i'w fwyta, na neb sy'n gweithio iddo. Ond os ydy e wedi prynu caethwas, mae hwnnw a'i deulu yn cael bwyta.
12 Os ydy merch offeiriad yn priodi dyn sydd ddim yn offeiriad, dydy hi ddim i gael bwyta'r offrymau o hynny ymlaen.
13 Ond wedyn, os ydy merch yr offeiriad yn mynd yn ôl i fyw at ei thad am fod ei gŵr wedi marw neu am ei bod hi wedi cael ysgariad, a bod dim plant ganddi, mae ganddi hawl i fwyta bwyd ei thad eto. Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael ei fwyta.
14 “Os ydy unrhyw un arall yn ddamweiniol yn bwyta'r offrymau sanctaidd, rhaid iddo dalu am y bwyd ac ychwanegu 20%.
15 Does neb i amharchu'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno i'r ARGLWYDD.
16 Mae unrhyw un sydd ddim i fod i'w bwyta yn euog os ydyn nhw'n gwneud hynny. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eu cysegru nhw i mi fy hun.”
17 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: