17 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
18 “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion, ac wrth bobl Israel i gyd: ‘Pan mae un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn cyflwyno offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD – offrwm wrth wneud addewid, neu un sy'n cael ei roi i'r ARGLWYDD o wirfodd –
19 dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno – tarw ifanc, hwrdd neu fwch gafr.
20 Rhaid peidio cyflwyno anifail sydd â nam arno. Fydd Duw ddim yn ei dderbyn ar eich rhan chi.
21 “‘Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ar ôl cyflawni ei addewid, rhaid i'r anifail – o'r gyr o wartheg neu o'r praidd o ddefaid a geifr – fod heb ddim byd o'i le arno. Os ydy'r ARGLWYDD i'w dderbyn rhaid iddo fod heb nam arno.
22 Peidiwch cyflwyno anifail i'r ARGLWYDD sy'n ddall, wedi torri asgwrn, wedi ei anafu, gyda briw wedi mynd yn ddrwg, brech neu unrhyw afiechyd ar y croen. Dydy anifail felly ddim i gael ei gyflwyno ar yr allor yn rhodd i'r ARGLWYDD.
23 Mae'n iawn i gyflwyno anifail sydd ag un goes yn hirach neu'n fyrrach na'r lleill fel offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, ond dim fel offrwm i wneud addewid.