28 Dydy buwch neu ddafad ddim i gael ei lladd ar yr un diwrnod a'u rhai bach.
29 Wrth aberthu anifail i ddiolch i'r ARGLWYDD am rywbeth, rhaid ei aberthu yn y ffordd iawn, fel bod Duw yn ei dderbyn ar eich rhan.
30 Rhaid ei fwyta y diwrnod hwnnw. Does dim ohono i gael ei adael tan y bore wedyn. Fi ydy'r ARGLWYDD.
31 Gwnewch beth dw i'n ddweud. Fi ydy'r ARGLWYDD.
32 Peidiwch sarhau fy enw sanctaidd i. Dw i eisiau i bobl Israel fy anrhydeddu i. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun.
33 Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, i mi fod yn Dduw i chi. Fi ydy'r ARGLWYDD.”