17 “‘Marwolaeth ydy'r gosb am lofruddiaeth hefyd.
18 Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo dalu drwy roi anifail tebyg yn ei le i'r perchennog.
19 Os ydy rhywun wedi anafu person arall, rhaid i'r gosb gyfateb i'r drosedd –
20 anaf am anaf, llygad am lygad, dant am ddant – beth bynnag mae e wedi ei wneud i'r person arall, dyna sydd i gael ei wneud iddo fe.
21 Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo wneud iawn am y peth. Ond os ydy rhywun yn llofruddio rhywun arall, rhaid iddo farw.
22 Yr un ydy'r gyfraith i bobl Israel a mewnfudwyr sy'n byw yn eu plith. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.’”
23 Ar ôl i Moses ddweud hyn, dyma nhw'n mynd â'r un oedd wedi melltithio Duw allan o'r gwersyll, a'i ladd drwy daflu cerrig ato. Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.